Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd
Bob dwy flynedd mae Cymdeithas Llywodraethwyr Cenedlaethol, y gymdeithas i lywodraethwyr ysgolion yn Lloegr, yn cynnal cystadleuaeth i ddarganfod clerc eithriadol i gorff llywodraethu. Diben hyn yw cydnabod a gwobrwyo’r cyfraniad a wna clercod i effeithlonrwydd cyrff llywodraethu ac wrth wneud hynny, annog clercod i ddatblygu eu rôl.
Bu Llywodraethwyr Cymru yn ffodus i dderbyn cyllid gan Lywodraeth y Cynulliad i alluogi clercod cyrff llywodraethu yng Nghymru i gymryd rhan yng Ngwobr 2009. Bu Llywodraethwyr Cymru’n cydweithio gyda Chymdeithas Llywodraethwyr Cenedlaethol. Roedd y Wobr yn agored i holl glercod cyrff llywodraethu, boed yn aelodau o staff AALl, staff ysgol eu wedi’u cyflogi gan y corff llywodraethu, neu awdurdod esgobaeth.
Dangoswyd cryn ddiddordeb yn y wobr Clerc Cymru. Derbyniodd Llywodraethwyr Cymru 38 o enwebiadau o ardaloedd ledled Cymru. Lluniwyd y rhestr fer ar sail cyflwyniad ysgrifenedig gan Gadeirydd y Llywodraethwyr ynghyd ag enghraifft o’r agenda a’r cofnodion. Roedd pedwar clerc corff llywodraethu ar y rhestr fer:
Yna gyda dau aelod o Bwyllgor Rheoli Llywodraethwyr Cymru yn feirniaid ac ar ôl ymweliadau â’r ysgolion, dewiswyd yr enillydd. Roedd hyn hefyd yn cynnwys craffu ar waith papur a gynhyrchwyd gan y clerc, a chyfweliadau gyda’r clerc a Chadeirydd y llywodraethwyr.
Cynhaliwyd y Seremoni Wobrwyo gyntaf yng Nghymru ar gyfer Gwobr Clerc 2009 ar ddydd Iau 5 Mawrth yng Ngwesty’r Metropole Llandrindod. Jane Hutt cyflwynwyd y gwobr/au gan y Gweinidog Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.
Enillydd y Wobr oedd Heather Jenkins, a ddywedodd “Diolch i staff Llywodraethwyr Cymru am brynhawn hyfryd yng Ngwesty’r Metropole yn Llandrindod ddoe. Dwi’n falch iawn o ennill y wobr newydd wych hon fel ‘Clerc Eithriadol Corff Llywodraethu 2009’ ar ôl cael fy enwebu gan Gadeirydd y corff llywodraethu, Mr Bob Elward, a’r Pennaeth Mr Robert Newsome OBE. Rwy’n falch iawn o fod wedi ennill ac yn hynod o falch o’m cyflawniad. Rwyf wedi gweithio yn Ysgol Dyffryn Taf am ugain mlynedd, naw ohonynt fel Clerc i’r corff llywodraethu. Mae’r wobr hon yn gwneud i mi deimlo bod yr holl flynyddoedd o waith caled wedi bod yn werth chweil.”
Yna bydd yr enillydd o Gymru yn mynd i’r seremoni wobrwyo gyffredinol yn Birmingham ar 21 Mawrth gyda’r enillwyr rhanbarthol o Loegr, lle y bydd yr enillydd cyffredinol yn cael ei ddewis.
Dywedodd Mr Elward, Cadeirydd y llywodraethwyr a enwebodd Mrs Jenkins: “Am dros wyth mlynedd mae Heather wedi darparu gwasanaeth clercio effeithiol o’r radd flaenaf i’r corff llywodraethu. Mae wedi hwyluso gofynion llywodraethu ysgol gyda’i rheolaeth gofalus o’r cyfoeth o ddata, dogfennau, gweithdrefnau a pholisïau cysylltiedig. Rydym yn edrych ymlaen at ei chefnogi yn y Seremoni Wobrwyo yn Birmingham.”
0845 60 20 100
9am - 10pm yn ystod yr wythnos.
11am - 4pm dros y penwythnos.
Codir tâl am alwadau ar gyfradd lleol.
Llywodraethwyr Cymru
Llawr Daear, 3 Llys Oaktree, Rhodfa Mulberry
Parc Busness Porth Caerdydd, Caerdydd. CF23 8RS
Llinell Gymorth: 0845: 0845 60 20 100
Ffôn: (029) 2073 1546 Ffacs: (029) 2073 2448