Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd

Governors Wales Logo

Governors Wales Logo

Llywodraethwyr Cymru

Governors Wales

Read this page in English

 

Helpline

Llinell Gymorth

Ffon: 0845 60 20 100

Mae llinell gymorth gyfrinachol Llywodraethwyr Cymru yn darparu cyngor annibynnol a chefnogaeth ar unrhyw bwnc yn ymwneud â llywodraethu ysgolion yng Nghymru, yn amrywio o gyfrifoldebau cyfreithiol, cyfarfodydd a gweithdrefnau pwyllgorau i osod targedau a rhagor.

Mae’r llinell gymorth ar gael o 9.00am tan 10.00pm yn ystod yr wythnos a rhwng 11.00am tan 4.00pm dros y Sul, ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus Gwyliau Banc. Mae pob galwad i’r llinell gymorth ar raddfa leol ac mae gwasanaeth dwyieithog ar gael. Gweithredir y llinell gymorth gan dîm arbenigol o staff llinell gymorth a gwirfoddolwyr sydd yn lywodraethwyr ac fe’u cefnogir pan fo angen gan ymgynghorwyr cyfreithiol annibynnol sydd yn cael eu talu ar ran Llywodraethwyr Cymru. Darperir cefnogaeth a hyfforddiant parhaus trwy gyfrwng cyfarfodydd rheolaidd i bawb sydd yn cynorthwyo gyda’r llinell gymorth.

Efallai yr hoffech e-bostio eich ymholiad am lywodraethu ysgolion i

Newyddion Llinell Gymorth

Roedd y materion y gofynnwyd amlaf am gyngor arnynt yn ystod mis Ebrill 2012 yn cynnwys:

  • Gweithdrefnau cwyno
  • Cod ymddygiad / llywodreathwyr o ymddygiad
  • Hunan Arfarnu / Nod Ansawdd
  • Penodi pennaeth / Dirprwy bennaeth
  • Gweithdrefnau ar gyfer cyfarfodydd / cofnodion

Os ydych chi wedi defnyddio’r gwasanaeth llinell gymorth cyn naill ai drwy ffonio neu gysylltu â ni drwy e-bost, byddem yn ddiolchgar pe baech yn gallu cymryd ychydig o funudau i gwblhau’r arolwg ar-lein drwy y ddolen hon Click here to take survey

Newyddion Llinell Gymorth a Wefan 2010-2011

Cyngor Cyfreithiol Annibynnol

Cefnogir y llinell gymorth gan gyngor cyfreithiol annibynnol a ddarperir gan bractis cyfreithiol cenedlaethol dan froceriaeth Judicium Consulting Ltd. Er fod Llywodraethwyr Cymru yn falch o’i allu i ymateb yn awdurdodol i ymholiadau gan alwadau’r llinell gymorth ac e-byst, trwy gyfeirio at reoliadau statudol a chanllawiau sydd wedi eu cyhoeddi, mae canran cymharol fechan yn creu mwy o anhawster. Yn aml bydd yr ymholiadau hyn yn ymwneud ag amgylchiadau sydd ar ymylon y gyfraith neu lle y gall rheoliadau a chanllawiau ymddangos yn amwys. Gall Llywodraethwyr Cymru ael barn gyfreithiol annibynnol mewn amgylchiadau o’r fath ac felly darparu ymateb i alwyr sydd â sail gyfreithiol, pan fo hynny’n briodol.

Dilyn ni ar:
Twitter Twitter Twitter

Twitter

Llywodraethwyr Cymru

Llawr Daear, 3 Llys Oaktree, Rhodfa Mulberry
Parc Busness Porth Caerdydd, Caerdydd. CF23 8RS

Llinell Gymorth: 0845: 0845 60 20 100

Ffôn: (029) 2073 1546 Ffacs: (029) 2073 2448

Telerau ac Amodau