Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd

Governors Wales Logo

Governors Wales Logo

Llywodraethwyr Cymru

Governors Wales

Read this page in English

 

Helpline

Diweddar Canllaw ar y Gyfraith - Gorffennaf 2010

Pennod 7
Newid cyfeiriad Canolfan Cymru Gyfan ar gyfer Hyfforddi Llywodraethwyr ac Ymchwil.

Pennod 8
Tudalen 1 paragraff 4 Mae “paragraff 27” wedi’i ychwanegu. Mae’r paragraffau o 22 i 35 wedi’u had-drefnu hefyd.

Pennod 10
Tudalen 1, paragraff 2 ychwanegwyd “a Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2009.
Tudalen 1, paragraff 3 ychwanegwyd “y Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol a gyhoeddir yn flynyddol”.
Tudalen 2, Paragraff 4 ychwanegwyd erbyn y pwynt bwled olaf: “ ddyletswydd ar lywodraethwyr i sicrhau bod y pennaeth yn cydymffurfio ac yn elwa ar ddarpariaethau’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol”.
Tudalen 4 o dan Adran A, paragraff 4 Ychwanegwyd “hysbysebion ar y we” at y paragraff hwn.
Tudalen 9 paragraff 40 Ychwanegwyd “Mae’r Swyddfa Gartref wedi nodi ei bwriad i adolygu’r Cynllun Fetio a Gwahardd” at y paragraff hwn.

Pennod 14
Noda tudalen 1 paragraff 1 “Daeth Cod Derbyniadau i Ysgolion statudol newydd i rym ar 15 Gorffennaf 2009”
Tudalen 1 paragraff 2 – mân ddiwygio
Noda tudalen 3 paragraff 14 “(gweler paragraff 2.17 y Cod Derbyn i Ysgolion)”
Tudalen 4 paragraff 16 “(e.e. tân sydd wedi dinistrio gofod ystafell ddosbarth)” wedi’i ddileu
Tudalen 5 paragraff 18 – mân ddiwygio
Tudalen 7 paragraff 24 – mae’r ddwy frawddeg olaf wedi’u hychwanegu
Tudalen 8 paragraff 29 – mae peth testun wedi’i ddileu a pheth testun newydd wedi’i ychwanegu yn y paragraff olaf.

Pennod 19
Tudalen 2 paragraff 3 mae’r frawddeg derfynol bellach yn nodi “yn achos cynigion i drosglwyddo ysgol arbennig a gynhelir o’i safle gwreiddiol i safle arall, mae’n rhaid rhoi rhybudd cyhoeddus oni bai bod yr ysgol yn trosglwyddo i safle sy’n cael ei ddefnyddio fel caeau chwarae’r ysgol”.

Pennod 21
Tudalen 9 o dan y pennawd “Ffedereiddio Cyrff Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir yng Nghymru”
mae paragraffau 59 – 68 wedi’u hailysgrifennu.

Pennod 23
Mân ddiwygiad i baragraff 44. Erbyn hyn fe noda’r paragraff “Telir y grant mewn ôl-daliadau, ar ôl cyflwyno ffurflen gais wedi’i llenwi (gyda ffurflen PL8), prawf o wariant ar ffurf derbynneb sydd wedi’i llofnodi oddi wrth yr arolygydd a chopi o’r arolygiad enwadol i: Is-adran Rheolaeth ac Effeithiolrwydd Ysgolion 5.

Pennod 25
Paragraff 26, tudalen 6 newid bach sy’n cynghori y daeth y mesur i rym ym mis Ebrill 2009.
Tudalen 7, paragraff 32 sy’n nodi “Mae’r Mesur yn nodi bod ‘rhaid i’r awdurdod lleol wneud trefniadau teithio addas i hwyluso’r ffordd i’r plentyn fynychu bob dydd y mannau perthnasol lle y mae’r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant’. Mae’n rhaid arfer gofal er mwyn sicrhau bod anghenion teithio pob dysgwr o dan 19 oed sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol yn cael eu hasesu yn unol â’r trefniadau teithio hyn. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, dysgwyr ifanc ar safleoedd Sipsiwn-Teithwyr”.
Brawddeg ychwanegol ym mharagraff 47 sy’n nodi “Er mwyn hwyluso hyn caiff Awdurdodau Lleol eu hannog i sicrhau bod archwilydd trydydd parti annibynnol yn cynnal archwiliad hylendid bwyd parthed eu cyflenwyr bwyd. O dan y gyfraith, mae’n ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd fod â system rheoli diogelwch bwyd sy’n seiliedig ar egwyddorion system Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP).
Tudalen 11 mân ddiwygiadau i baragraffau 58 a 59.
Tudalen 12, paragraff 68 dilëwyd – wrth i’r canllaw hwn gael ei baratoi, mae gwaith yn mynd rhagddo ar ganllaw ar weithdrefnau recriwtio diogelach.
Noda tudalen 13, paragraff 72 a 74 “yn Hydref 2010, a bydd yn cyhoeddi canllawiau ynghylch y defnydd ohono ar yr un pryd”.

Dilyn ni ar:
Twitter Twitter Twitter

Twitter

Llywodraethwyr Cymru

Llawr Daear, 3 Llys Oaktree, Rhodfa Mulberry
Parc Busness Porth Caerdydd, Caerdydd. CF23 8RS

Llinell Gymorth: 0845: 0845 60 20 100

Ffôn: (029) 2073 1546 Ffacs: (029) 2073 2448

Telerau ac Amodau