Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd
Cydnabyddir yn gyffredinol bod gwisg ysgol yn agwedd gadarnhaol o fywyd ysgol. Gall gwisg ysgol sydd wedi’i chreu yn dilyn ymgynghori priodol gyda rhieni a disgyblion, ddarparu synnwyr o hunaniaeth a chydlyniad, hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a lleihau pwysau oddi wrth gyfoedion i ddisgyblion wisgo dillad ffasiynol dylunwyr – a gall y cyfan fod yn fanteisiol i ysgolion, disgyblion a rhieni. Ond, cydnabyddir hefyd bod cost gwisg ysgol yn gallu bod yn faich sylweddol ar rai teuluoedd. Mae angen i gyrff llywodraethu roi blaenoriaeth uchel i ystyriaethau cost gwisg ysgol a pha mor hawdd yw prynu eitemau gwisg ysgol.
Yn ogystal â chostau gwisg ysgol, mae costau eraill yn berthynol i’r ysgol yn gosod beichiau ariannol ar deuluoedd fel tripiau ysgol, gweithgareddau, digwyddiadau a deunyddiau ystafell ddosbarth. Dylai cyrff llywodraethu ystyried costau’r tripiau/ gweithgareddau hyn a dylent fod yn ymwybodol o’r hyn y gallant ac na allant yn gyfreithiol ei godi ar deuluoedd.
Cyhoeddwyd: 1/07/2011
![]()
Llywodraethwyr Cymru
Llawr Daear, 3 Llys Oaktree, Rhodfa Mulberry
Parc Busness Porth Caerdydd, Caerdydd. CF23 8RS
Llinell Gymorth: 0845: 0845 60 20 100
Ffôn: (029) 2073 1546 Ffacs: (029) 2073 2448