Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd

Governors Wales Logo

Governors Wales Logo

Llywodraethwyr Cymru

Governors Wales

Read this page in English

 

Helpline

Cyfansoddiad Llywodraethwyr Cymru

Cyfansoddaid

  1. Enw’r sefydliad yw Cyd-ffederasiwn Cymdeithasau Llwodraethwyr Ysgolion Cymru (y “Llywodraethwyr Cymru”).
  2. Bydd y Cyd-ffederasiwn
    * yn gweithredu fel fforwm amibymol cenedlaethol ar gyfer pob Cymdeithas Cyrff Llywodraethol (“Cymdeithasau”) yng Nghymru,
    * yn annog sefydlu Cymdeithasau democrataidd a cheisio cynrychiolaeth ganddynt,
    * yn gweithredu fel cynrychiolydd a chorff ymgynghorol cenedlaethol yng Nghymru I’r llywodraeth a chyrff priodol eraill,
    * hyrwyddo rhwydweithio rhwng cyrff llywodraethol yn enwedig wrth gyfnewid gwybodaeth am ymarfer dda wrth lywodraethu ysgolion,
  3. annog mewn cydweithrediad â awdurdodau lleol â sefydliadau eraill ddarpariaeth gwybodaeth, ymchwil, cyngor a hyfforddiant ar gyfer Llywodraethwyr a Chyrff Llywodraethol.
    Aelodau’r Cyd-ffederasiwn
  4. Aelodau’r Cyd-ffederasiwn fydd Cymdeithasau sy’n cefnogi Amcanion a Chyfansoddiad y Cyd-ffederasiwn, a byddant, o dan amgylchiadau arferol, yn cynwys cynrychiolwyr o Gyrff Llywodraethol mewn unrhyw ardal addysg.
  5. Ni fydd cynrychiolaeth o bob ardal addysg yn rhwystro’r rheidrwydd i drefnu cymdeithasau mewn unrhyw ardal addysg unigol mewn ffyrdd sy’n gwasanaethu anghenion yr ardal honno orau, ar yr amod eu bod yn briodol gynrychioladol o’r Gyrff llywodraethu. Gall y Pwyllgor Rheoli, o ystyried pob achos yn ôl ei haeddiant, benderfynu i ganiatau cynrychiolaeth o bob cymdeithas o’r fath.
  6. Bydd gan bob ardal addysg yr hawl i 3 gynrychiolydd a chanddynt bleidlais yn y Cyd-ffederasiwn.
  7. Os ceir ad-drefnu helaeth i Awdurdodau Lleol neu newidiadau sylweddol yn fframwaith yr awdurdodau addysg, bydd yn rhaid adolygu’r aelodaeth yn unol â phrif egwyddorion y Cyd-ffederasiwn.
  8. Y Cyd-ffederasiwn fydd yn penderfynu amcanion a pholisi’r sefydliad ac leithoedd swyddogol y Cyd-ffederasiwn fydd yn Gymraeg a’r Saesneg.
  9. Gwneir penderfyniadau’r Cyd-ffederasiwn drwy fwyafrif syml o’r rheini sy’n bresennol a chanddynt hawl i bleidleisio.
  10. Cworwm o’r Cyd-ffederasiwn fydd traean o’r cynrychiolwyr.
  11. Gall y cyd-ffederasiwn ymgynnull mor fynych ag y penderfyno heblaw na ddylai ymgynnull lai na dwywaith mewn unrhyw flwyddyn galendr.
  12. Dynodir un o gyfarfodydd y cyd-ffedrerasiwn bob blwyddyn yn Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyd-ffederasiwn. Cynhelir y CCB fel arfer yn y Gwanwyn a rhaid rhoi hysbysiad o ddau fis ymlaen llaw.
  13. Fel arfer, bydd y CCB fel rheol yn ystyried yr eitemau canlynol:-
    * Adroddiad Blynyddol
    * Ethol Swyddogion
    * Cynigion gan Gymdeithasauy rhoddwyd 28 diwrnod o rybudd ar eu cyfer
    * Cymeradwyo’r Datganiad Ariannol
    * Penodi Archwilwyr
    * Busnes perthnasol y rhoddwyd rhybudd o 7 diwrnod ar ei gyfer.
  14. Gellir ailgynnull y Cyd-ffederasiwn ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Arbennig yn sgil 21 diwrnod o rybudd ar gais heb fod yn llai na thraean o’r cynrychiolwyr a chanddynt hawl i bleidleisio rhaid iddynt gyflwyno rhybudd ysgrifenedig o’u cais a’r rheswm drosto. Gall y Pwyllgor Rheoli hefyd alw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig o’r Cyd-ffederasiwn a dylid gweithredu’r un amserlen a chynnig eglurhad ysgrifenedig cyffelyb.
  15. Bydd y Pwyllgor Rheoli’n atebol i’r Cyd-ffederasiwn am weithredu polisi ac amcanion y Cyd-ffederasiwn rhwng cyfarfodydd ac am benderfynu rheolau trefniadaeth.
  16. Bydd y Pwyllgor Rheoli’n cynnwys 1 cynrychiolydd cyfetholedig o bob ardal addysg, yn ôl darpariaethau Rheol 4, ac eithrio Powys a ddylai gan roi ystriaeth i’w anawsterau daearyddol, gael dau gynrychiolydd. Etholir Swyddogion y Cyd-ffederasiwn, gan y Cyd-ffederasiwn. Gall unrhyw berson a awdurdodwyd i ymarfer hawliau pleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fel cynadleddwr cynrychioliadol sefyll, gyda chymeradwyaeth eu cymdeithas leol, ar gyfer etholiad fel swyddog y Cydffederasiwn, yr etholiadau i’w cynnal yn unol â‘r Cyfansoddiad. Bydd yr hawliau sefydlog i gynrychiolaeth cymdeithasau lleol ar Bwyllgor Rheoli Llywodraethwyr Cymru yn gymwys. Y pedwar swyddog fydd y Cadeirydd, Is-gadeirydd, Trysorydd a’r Ysgrifennydd ac fe’u hetholir yn flynyddol yn y CCB. Gall unrhyw gynrychiolydd a enwebir i’w (h)ethol yn swyddog, ddosbarthu datganiad sydd heb fod dros 100 gair gyda’r hysbysiad enwebu. Rhaid I enwebiadau ar gyfer swyddogion gael eu cynnig a’u heilio gan ddau gynrychiolydd a rhaid eu cyflwyno’n ysgrifenedig o leiaf 28 diwrnod cyn y CCB.
  17. Fel arfer, ni fydd unrhyw aelod o’r Pwyllgor Rheoli’n dal Swydd Weithredol arbennig am fwy na thair blynedd yn olynnol.
  18. Os daw lle swyddog yn wag rhwng cyfarfodydd y Cyd-ffederasiwn, gall y Pwyllgor Rheoli ethol swyddog gweithredol new un dros dro yn ei le.
  19. Gellir cael hyd at bum lle cyfetholedig ar y Pwyllgor Rheoli yn ôl doethineb y Pwyllgor. Ni fydd gan y cyfryw aelodau cyfetholedig yr hawl i bleidleisio.
  20. Gall y Cydffederasiwn, o dro i dro, benderfynu fod y swydd o Lywydd Anrhydeddus am Oes yn cael ei ddyfarnu i gydnabod gwasanaeth i lywodraethu ysgolion ac i Lywodraethwyr Cymru sydd o arwyddocâd a theilyngdod neilltuol. Caiff penderfyniad o’r fath ei wneud o ganlyniad i fabwysiadu cynnig ffurfiol i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cydffederasiwn.
  21. Gwneir penderfyniadau’r Pwyllgor Rheoli drwy fwyafrif syml o’r rheini sy’n bresennol a chanddynt hawl I bleidleisio. Os ceir bleidlais gyfartal, bydd gan y Cadeirydd hawl i bleidlais fwrw.
  22. Cworwm i’r Pwyllgor Rheoli fydd traean o’r Pwyllgor.
  23. Fel arfer, bydd y Pwyllgor Rheoli’n ymgynnull o leiaf deirgwaith y flwyddyn ac ar ba achlysuron bynnag eraill yn ôl y gogyn er mwyn cadw’r busnes i fynd yn effeithlon.
  24. Defnyddir yr holl arian a godir gan y Cyd-ffederasiwn neu ar ei ran er mwyn hyrwyddo amcanion y Cyd-ffederasiwn a dim at unrhyw ddiben arall.
  25. Y Cyd-ffederasiwn, ar argymhelliad y Pwyllgor Rheoli, fydd yn penderfynu’r taliadau aelodaeth blynyddol.
  26. Telir y holl arian a dderbynnir i gyfrif banc yn enw’r Cyd-ffederasiwn. Bydd i’r Trysorydd gadw cyfrifon priodol a bod yn gyfrifol am faterion ariannol y Cyd-ffederasiwn.
  27. Bydd angen llofnod unrhyw ddau o’r rhai a enwir isod ar sieciau a dynnir ar gyfrif banc y Cyd-ffederasiwn:-
    * Y Cadeirydd
    * Yr Is-Cadeirydd
    * Yr Ysgrifennydd
    * Y Trysorydd
    * Y Cyfarwyddwr.
    Ni ryddheir sieciau heb wybodaeth a chaniatad y Trysorydd.
  28. Archwilir y cyfrifon o leiaf unwaith y flwyddyn gan yr archwilydd a benodir gan y Cyd-ffederasiwn yn ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
  29. Bydd blwyddyn ariannol y Cyd-ffederasiwn yn rhedeg o ddiwrnod cyntaf mis Ebrill hyd at 31ain Mawrth yn y flwyddyn galendr ganlynol.
  30. Gellir cychwyn unrhyw gynnig am amendiad(au) i’r Cyfansoddiad gan y Pwyllgor Rheoli neu aelod o’r gymdeithas ac fe’i cyflwynir yn ysgrifenedig i Gadeirydd y Conffederasiwn heb fod yn llai nag wyth ar hugain diwrnod llawn cyn y CCB neu CCA ple y cynigir yr amendiad(au). Rhaid i’r amendiad gael ei ddosbarthu yn ysgrifenedig ymhlith yr aelodau gyda’r agenda a’r rhybudd o’r cyfarfod. Rhaid i unrhyw amendiad dderbyn pleidlais dwy ran o dair o’r mwyafrif o’r cynrychiolwyr sydd yn bresennol ac yn pleidleisio.
  31. Os bydd y Pwyllgor Rheoli drwy fwyafrif syml yn penderfynu ar unrhyw adeg ar sail cost neu del arall ei bod yn angenrheidiol neu’n fuddiol i ddiddymu’r Cyd-ffederasiwn, gelwir cyfarfod o’r Cyd-ffederasiwn ar ôl rhoi heb fod yn llai nag un diwrnod ar hugain o rhybudd gan ddatgan telerau’r cynnig sydd i fynd gerbron. Bydd y cyfryw benderfyniad yn gofyn am fwyafrif o ddwy ran o dair o’r rheini sy’n bresennol ac sy’n pleidleisio. Oni cheir cworwm, bydd y Pwyllgor Rheoli’n galw cyfarfod arall o’r Cyd-ffederasiwn heb roi llai na phedwar ar ddeg o rybudd gan egluro’r amgylchiadau ac yna gwneir penderfyniad ar sail mwyafrif syml o’r rheini sy’n bresennol ac sy’n pleidleisio.
  32. Os ceir ddiddymiad, bydd unrhyw asedau sy’n weddill ar ôl bodloni unrhyw ddyledion a rhwymedigaethau priodol, yn cael eu rhoi neu eu trosglwyddo i unrhyw sefydliad neu sefydliuadau a chanddynt amcanion tebyg i nodau’r Cyd-ffederasiwn yn ddarostyngedig i hawl y Pwyllgor Rheoli i roi ystyriaeth i ad-daliad i aelodau a grwpiau cofrestredig a chyrff llywodraethol cofrestredig mewn cyfrannedd â’u cyfraniadau.

Dilyn ni ar:
Twitter Twitter Twitter

Llywodraethwyr Cymru

Llawr Daear, 3 Llys Oaktree, Rhodfa Mulberry
Parc Busness Porth Caerdydd, Caerdydd. CF23 8RS

Llinell Gymorth: 0845: 0845 60 20 100

Ffôn: (029) 2073 1546 Ffacs: (029) 2073 2448

Telerau ac Amodau