Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd

Governors Wales Logo

Governors Wales Logo

Llywodraethwyr Cymru

Governors Wales

Read this page in English

 

Helpline

Cwestiynau a Ofynnir Amlaf

Oes rhaid i’r cyrff llywodraethwyr cynnal cyfarfod blynyddol rhieni?

Yn ôl y gyfraith rhaid i’r corff llywodraethu ysgrifennu adroddiad a chynnal cyfarfod gyda rhieni unwaith y flwyddyn. Fodd bynnag, os yw’r ysgol wedi ei sefydlu mewn ysbyty neu ysgol breswyl a gynhelir gyda dros 50% o ddisgyblion yn preswylio yno, gall y corff llywodraethu benderfynu nad yw’n ymarferol cynnal cyfarfod blynyddol gyda’r rhieni. Mae yna esemptiadau eraill i’r gofyniad i gynnal cyfarfod blynyddol i rieni sydd ond yn gymwys am un flwyddyn yn unig, er enghraifft:

  1. os oes cyfarfod rhieni wedi ei gynnal ar ôl arolwg ysgol, i drafod adroddiad yr arolygydd cyn i’r corff llywodraethu gynhyrchu ei gynllun gweithredu;
  2. os yw’r corff llywodraethu wedi cynnal cyfarfod neu gyfarfodydd ble y gwahoddwyd y rhieni i gyd ac a fynychwyd gan 3 llywodraethwr neu fwy;
  3. os yw llai na 5% o rieni’n ymateb i hysbysiad sy’n cael ei anfon gyda’r adroddiad blynyddol yn gofyn a ydynt eisiau i’r corff llywodraethu gynnal y cyfarfod blynyddol. Ffynhonnell cyfeiriad: Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Dilyn ni ar:
Twitter Twitter Twitter

Llywodraethwyr Cymru

Llawr Daear, 3 Llys Oaktree, Rhodfa Mulberry
Parc Busness Porth Caerdydd, Caerdydd. CF23 8RS

Llinell Gymorth: 0845: 0845 60 20 100

Ffôn: (029) 2073 1546 Ffacs: (029) 2073 2448

Telerau ac Amodau