Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd

Governors Wales Logo

Governors Wales Logo

Llywodraethwyr Cymru

Governors Wales

Read this page in English

 

Helpline

Astudiaethau Achos

Noder mai ffuglen yw’r astudiaeth achos isod ac nid yw o angenrhaid yn cynrychioli’r gweithdrefnau cywir fel a nodir yn y rheoliadau. Mae wedi ei ddylunio yn unig i bryfocio ac i annog trafodaeth.

Mae Mrs Jones, staff lywodraethwr mewn ysgol gynradd wledig, wedi gwasanaethu fel cadeirydd corff llywodraethu ei hysgol am ddwy flynedd yn olynol, ar ôl enwebu ei hun ar gyfer etholiad. Mae Mrs Jones, ynghyd â dau lywodraethwr arall, yn enwebu eu hunain fel ymgeiswyr ar gyfer etholiad cyn y cyfarfod blynyddol nesaf. O ganlyniad i hynny mae Mrs Jones yn cadw’r swydd o Gadeirydd ac mae swydd yr Is-Gadeirydd yn cael ei llenwi gan un o’r ddau lywodraethwyr eraill. Nid oes etholiad ffurfiol yn cael ei chynnal.

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005
Rhan 7, Rheoliad 39

  1. Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 199813 (Pŵer Cynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol), rhaid i’r corff llywodraethu ethol cadeirydd ac is-gadeirydd o blith ei aelodau yn flynyddol.
  2. Nid yw llywodraethwr y telir iddo am weithio yn yr ysgol neu sy’n ddisgybl yn yr ysgol yn gymwys i fod yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd corff llywodraethu’r ysgol honno.
  3. Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), bydd y cadeirydd neu’r is-gadeirydd yn dal swydd hyd nes y bydd ei olynydd wedi ei ethol yn unol â pharagraff (1).
  4. Caiff y cadeirydd neu’r is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.
  5. Daw swydd y cadeirydd neu’r is-gadeirydd i ben—
    – pan fydd yn peidio â bod yn aelod o’r corff llywodraethu;
    – os telir iddo am weithio yn yr ysgol dan sylw;
    – os diswyddir ef yn unol â rheoliad 41 neu os cymerir ei le gan gadeirydd a enwebwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998; neu
    – yn achos yr is-gadeirydd, os etholir ef yn unol â pharagraff (6) i lenwi swydd wag y cadeirydd.
  6. Pan ddaw swydd y cadeirydd neu’r is-gadeirydd yn wag, rhaid i’r corff llywodraethu yn ei gyfarfod nesaf ethol un o’u plith i lenwi’r swydd honno, yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 1998.
  7. Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir i fod yn gadeirydd neu is-gadeirydd drwy bleidlais gudd.
  8. Pan fydd y cadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag ar y pryd, bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd ym mhob diben.
  9. Os bydd yr is-gadeirydd yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yn absennol o’r cyfarfod neu os bydd swydd yr is-gadeirydd yn wag ar y pryd, rhaid i’r corff llywodraethu ethol un o’u plith i weithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).
  10. Bydd clerc y corff llywodraethu yn gweithredu fel cadeirydd yn ystod y rhan honno o unrhyw gyfarfod yr etholir y cadeirydd ynddi.

Cliciwch yma ar gyfer Astudiaeth Achos 2

Dilyn ni ar:
Twitter Twitter Twitter

Twitter

Llywodraethwyr Cymru

Llawr Daear, 3 Llys Oaktree, Rhodfa Mulberry
Parc Busness Porth Caerdydd, Caerdydd. CF23 8RS

Llinell Gymorth: 0845: 0845 60 20 100

Ffôn: (029) 2073 1546 Ffacs: (029) 2073 2448

Telerau ac Amodau